Wythnos Rhoi Organau 2024
30 mlynedd o newid ac achub bywydau
Mae Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG yn 30 oed! Mae’n bwysicach nag erioed i wneud penderfyniad am y rhodd o fywyd Dyma’r peth gorau wnewch chi heddiw!
Beth ydy Wythnos Rhoi Organau?
Mae Wythnos Rhoi Organau yn ymgyrch sy’n para am wythnos ac sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn. Mae’n codi ymwybyddiaeth o’r angen parhaus am roddwyr organau.
Pam rydym yn ymgyrchu
Mae angen trawsblaniad organ ar fwy na 7600 o bobl, gan gynnwys dros 250 o blant.
Bob blwyddyn, mae tua 1400 o bobl yn rhoi organau, ond er y bobl ryfeddol hyn, mae’r rhestr aros yn dal i gynyddu.
30 mlynedd o Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG
2 funud yn unig sydd ei angen i gofrestru eich penderfyniad i fod yn rhoddwr organau, a gallech chi achub hyd at 9 bywyd.
30 mlynedd o garedigrwydd
I ddathlu Wythnos Rhoi Organau, bydd adeiladau a thirnodau ar hyd a lled y DU yn cael eu goleuo’n binc.
Mae mwy na 70 o adeiladau a thirnodau yn ein cefnogi hyd yma sy’n nifer ardderchog. Edrychwch ar ein map isod, os oes un wrth eich ymyl chi, tynnwch hun-lun gydag ef a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol! Cofiwch ein tagio @nhsorgandonor.
Adeiladau a thirnodau sy’n troi’n binc ar gyfer Wythnos Rhoi Organau
Gwybodaeth am roi organau
Mae rhagor o wybodaeth am roi organau ar gael isod.