Helpwch ni i ddathlu Wythnos Rhoi Organau
Sut gallwch chi helpu
Pwrpas Wythnos Rhoi Organau ydy codi ymwybyddiaeth, ac rydych chi’n rhan fawr o hynny.
Ar y dudalen hon, rydyn ni wedi rhannu ambell ffordd i chi gymryd rhan a dangos eich cefnogaeth i roi organau. Tarwch olwg i weld sut gallwch chi helpu!
Cadwch ni mewn cysylltiad
Rhannwch beth fyddwch chi’n ei wneud yn ystod Wythnos Rhoi Organau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy:
Ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol: @NHSOrganDonor
Defnyddiwch: #WythnosRhoiOrganau #OrganDonationWeek
Pinc ydy lliw Cerdyn Rhoi Organau’r GIG, felly er mwyn codi ymwybyddiaeth o roi organau, sef rhodd sy’n achub bywydau, rydym eisiau troi’r byd yn binc gymaint ag y gallwn ni.
Swnio’n hwyl? Cliciwch isod i weld sut gallwch chi gymryd rhan.
Gwnewch sŵn
Gallwch ein helpu i godi ymwybyddiaeth yn ystod wythnos Rhoi Organau drwy wneud y canlynol:
- Rhannu eich lluniau ‘pinc’ ar y cyfryngau cymdeithasol, a’n tagio ni yn @nhsorgandonor
- Annog pobl i ddefnyddio Cofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG i gadarnhau eu penderfyniad am roi organau
- Rhannu ein deunyddiau digidol ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu i godi ymwybyddiaeth
- Rhannu eich stori rhoi organau chi ar y cyfryngau cymdeithasol a’n tagio ni yn @nhsorgandonor
- Rhannu’r dudalen hon i roi gwybod i bobl eraill sut gallan nhw gefnogi ein hymgyrch