Cyfraith rhoi organau yng Nghymru

English

 

Cydsyniad tybiedig yw’r ddeddfwriaeth yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu, os nad ydych chi wedi cofrestru penderfyniad i roi organau a meinwe (optio i mewn neu optio allan), byddwch yn cael eich trin fel nad oes gennych chi wrthwynebiad i fod yn rhoddwr.

Cydsyniad tybiedig yng Nghymru

Ystyrir eich bod yn cytuno i fod yn rhoddwr organau pan fyddwch yn marw, os:

  • ydych chi dros 18 oed;
  • nad ydych chi wedi optio allan;
  • nad ydych chi mewn grŵp sydd wedi’i eithrio.

Eich penderfyniad chi yw rhoi organau. Gallwch ddewis pa organau i’w rhoi neu ddewis peidio â’u rhoi’n gyfan gwbl.

Gallwch hefyd enwebu hyd at ddau gynrychiolydd i wneud y penderfyniad ar eich rhan. Gallai’r rhain fod yn aelodau o’r teulu, yn ffrindiau neu’n bobl eraill rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw, fel eich arweinydd ffydd.

Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth hon ym mis Rhagfyr 2015.

Welsh flag

Ar bwy mae’n effeithio?

Mae cydsyniad tybiedig yn berthnasol i bawb yng Nghymru, ac eithrio’r rheini sy’n rhan o’r hyn a elwir yn grwpiau wedi’u heithrio.

Dyma’r grwpiau sydd wedi’u heithrio:

  • Pawb dan 18 oed
  • Pobl heb y gallu meddyliol i ddeall y trefniadau newydd a chymryd y camau angenrheidiol
  • Ymwelwyr â Chymru, a’r rheini nad ydynt yn byw yma’n wirfoddol
  • Pobl sydd wedi byw yng Nghymru am lai na deuddeg mis cyn eu marwolaeth

Mwy o wybodaeth