Wythnos Rhoi Organau 2026
Dydd Llun 21 Medi i ddydd Sul 27 Medi
Mae’r hyn wnewch chi wythnos yma wir yn bwysig
Dangoswch eich cefnogaeth a chofnodi eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau y GIG.
Mae cofnod o benderfyniad yn rhoi sicrwydd i deuluoedd ar adeg eithriadol o anodd.
Mae eich anwyliaid yn fwy tebygol o gefnogi rhoi organau os ydyn nhw’n gwybod beth yw eich dymuniad chi.
Bob dydd, collir cyfleoedd i achub bywydau oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod am benderfyniadau ynghylch rhoi organau.
2 funud sydd ei angen i gadarnhau eich penderfyniad, ac fe allech chi achub hyd at 9 bywyd.
Cefnogwch ni yn ystod yr Wythnos Rhoi Organau eleni
Beth ydy Wythnos Rhoi Organau?
Mae Wythnos Rhoi Organau yn ddigwyddiad blynyddol, ac yn gyfle i ni ganolbwyntio ar bwysigrwydd rhoi organau a’r angen am ragor o roddwyr.
Eleni, mae angen eich cefnogaeth arnom yn fwy nag erioed gan fod angen trawsblaniad ar dros 8,500 o bobl ar hyn o bryd i achub neu i wella eu bywydau.