Siarad gyda’ch anwyliaid
Rhoi organau yw pan fydd un person yn dewis rhoi organ i achub neu wella bywyd rhywun arall.
Er bod y gyfraith ynghylch rhoi organau wedi newid i system optio allan mewn sawl rhan o’r DU, byddwn yn parhau i ymgynghori â’ch teulu os yw rhoi organau’n bosibilrwydd.
Gall eich teulu wrthdroi eich penderfyniad
Bob blwyddyn, collir cannoedd o gyfleoedd am drawsblaniadau oherwydd nad yw teuluoedd yn gwybod beth i’w wneud.
Ymgynghorir â’ch teulu bob amser ynghylch a oeddech chi eisiau bod yn rhoddwr organau ai peidio, ac ni fydd clinigwyr byth yn bwrw ymlaen â’r broses os bydd eich teulu neu’ch anwyliaid yn gwrthwynebu.
Esboniwch y cyfan
Os hoffech chi roi eich organau
Os ydych chi eisiau bod yn rhoddwr organau ar ôl i chi farw, mae’n bwysig iawn eich bod yn siarad â’ch anwyliaid ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn deall ac yn cefnogi eich penderfyniad. Gallwch hefyd gofrestru eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.
Os nad ydych chi eisiau rhoi eich organau
Os byddwch chi’n penderfynu peidio â rhoi organau, gallwch helpu eich teulu drwy gyfnod anodd drwy siarad â nhw am eich penderfyniad, a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod beth rydych chi ei eisiau. Gallwch hefyd gofrestru eich penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.
A oeddech yn gwybod?
Mae cleifion Du a De Asia yn aros yn hwy na chleifion gwyn am drawsblaniad, ac er y gall pobl dderbyn trawsblaniad gan rywun o unrhyw ethnigrwydd, daw'r trawsblaniadau gorau gan roddwyr o'r un ethnigrwydd.
Dangoswch galon
Rhowch galon yn eich ffenestr fel symbol o’ch addewid i siarad am eich penderfyniad, neu i annog eraill i wneud yr un peth.
Mae ein calonnau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae fersiwn ar gael hyd yn oed i’w lliwio eich hun os ydych chi eisiau i’r teulu cyfan gymryd rhan.