Sut i siarad am roi organau
Er bod y gyfraith ynghylch rhoi organau wedi newid i system optio allan mewn sawl rhan o’r DU, byddwn yn parhau i ymgynghori â’ch teulu os yw rhoi organau’n bosibilrwydd.
Gall eich anwyliaid wrthdroi eich penderfyniad os nad ydynt yn siŵr beth rydych chi ei eisiau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio’r cyfan.
Dilynwch y camau syml hyn i gychwyn eich sgwrs.
1. Cael y ffeithiau
Cyn dechrau, darllenwch am roi organau ar ein gwefan.
2. Dewch o hyd i bwynt trafod
Ceisiwch siarad am rywbeth rydych chi wedi’i weld ar y newyddion neu ar y cyfryngau cymdeithasol, os bydd hynny’n helpu.
3. Ymlaciwch
Cewch sgwrs dros baned o de, neu wrth dreulio amser yng nghwmni eich gilydd.
4. Siaradwch o’r galon
Byddwch mor onest ac agored ag y gallwch fod, a gwrandewch ar eich gilydd. Nid oes rhaid i chi gytuno!
5. Trafodwch eich credoau
Beth bynnag yw eich ffydd neu'ch credoau, gwnewch nhw'n rhan o'r sgwrs. Cyrchwch gyngor defnyddiol o'n gwefan, neu siaradwch â'ch arweinydd ffydd.
6. Bachwch y foment
Peidiwch ag oedi tan yfory. Os yw’n teimlo fel yr amser iawn, ewch amdani! A chofiwch gynnwys pob aelod o’ch teulu.